Gemau Cymru
Amdanom
Corff annibynnol sy'n cynrychioli buddiannau y diwydiant gemau Cymraeg.

Ein Hanes
Esblygodd Gemau Cymru o gyfarfod rhwng wyth o bobol mewn tafarn yng Nghaerdydd yn 2011 da ofal cadeirydd cyntaf Gemau Cymru Ian Thomas.
Nid yn hir wedyn daeth grwp o gwmniau a sefydliadau oedd a diddordeb yn natblygiad y diwydiant gemau yng Nghymru ynghyd i drafod syniadau a rhannu gwybodaeth, er mwyn ceisio ysgogi fwy o ddiddordeb yn y diwydiant ac i gynyddu ymwybyddiaeth o'r diwydiant yng Nghymru.
Tua'r un amser fe gyngaliodd GamesLab y Game Development Showcase, a thrwy gwaith da Dai Banner a Richard Pring (ag aeth ymlaen i sefydlu Wales Interactive) a thîm o wirfoddolwyr fe esblygodd i fewn i'r Wales Games Development Show. Daeth y tri peth ynghyd dan faner Gemau Cymru gyda nôd syml - "I gwneud popeth posib i hyrwyddo datblygiad gemau yng Nghymru"
Y sioe oedd prif ffocws Gemau Cymru ond roedd rhaid ohirio'r sioe oedd wedi ei drefnu ar gyfer Mehefin 2020, â'r sioeau olynol, oherwydd y pandemig.
Yn 2021 fe gyd awdurodd un o sylfaenwyr Gemau cymru, Richard Hurford, Arlowg Gemau Clwstwr Cymru Fe gyhoeddwyd yr adroddiad yn 2022 ag ynddo roedd sawl argymhelliad oedd yn cyfeirio'n benodol at rôl Gemau Cymru fel catalydd ar gyfer newid.
Yn 2023 rydym yn lansio ein gweledigaeth ar gyfer dyfodol y diwydiant gemau yng Nghymru ac yn cydweithiau a nifer o rhanddeiliaid er mwyn wireddu ein uchelgais.

Ein Gweledigaeth
Rydym yn datblygu ac yna gweithredu cynllun 10-mlynedd uchelgeisiol fydd yn creu'r potensial i leoli dau stiwdio AAA yma yng Nghymru erbyn 2033.
Mae datgan nod yn rhywdd, mae ei wireddu yn fater arall. Mae angen ystyried a mynd i'r afael a nifer o ffactorau er mwyn wireddu'r uchelgais.
Lle, yn ddaearyddol, dylai'r ffocws fod? Beth yw'r dangosyddion economaidd ar gyfer y lleoliad yna? Beth gall ddenu a chadw'r y dosbarth o weithwyr creadigol sydd ei angen i yrru'r diwydiant yma yng Nghymru? A sut mae sicrhau fod ein prifysgolion yn creu'r ffrwd o dalent sydd ei angen?
Mae angen ystyried ansawdd bywyd, costau tai ag isadeiladedd trafnidaieth.
Pwrpas a cynllun hyn yw i greu diwydiant gemau ag economi sy'n ffynu yma yng Nghymru, sicrhau fod Cymru'n lleoliad deniadol a ddichonol i gychwyn a lleoli cwmni gemau. Yn galluogi busnesau frodorol i ffynu, tyfu a chyfrannu'n sylweddol at economi Cymru.
Mae sawl ymdrech ar waith ar hyn o bryd er mwyn galluogi llwyddiant y cynllun. Rydym hefyd yn ffodus fod enghreifftiau yn bodoli o ymdrechion llwyddiannus o greu twf yn y sector gemau yn y Deyrnas Unedig, a gallwn dysgu gwersi pwysig o'r rhain wrth i ni dorri cwys ein hunain yma yng Nghymru.
Rydym yn cydweithio a nifer o rhanddeiliaid ar hyn o bryd, yn gwneud achos dros buddsoddiad, amlygu'r potensial ar gyfer twf a datblygu Cymru fel cartref i'r diwydiant gemau.
Eisiau dysgu rhagor?
Cysylltu
Diddordeb yn natblygiad y diwydiant gemau yng Nghymru?
Carem glywed gennych. Danfonwch neges trwy ffurflen gysylltu neu danfonwch e-boat at ein cadeirydd ar yr e-bost isod. Diolch